Monday, 30 July 2012

SXTO


'So, get snapping baby. 1 llun bach- i v, dim ond v.'


Cariad Lowri yw Meic.  Maen nhw mewn cariad, felly does dim yn bod gyda danfon llun bach i brofi eu bod nhw’n trystio’i gilydd ... oes e?

Ffrind Meic yw Gav. A phan mae Meic yn cael ffôn newydd ar ei ben-blwydd mae Gav yn prynu’r hen un.  Ond ble mae’r llun o Lowri?

Ffrind Lowri yw Jen.  Ond mae Lowri’n ei thynnu hi lawr o hyd ac yn ei hala hi’n benwan weithie.  Beth yw ei hymateb pan mae’n gweld y llun o Lowri?

Gwe anferthol sy’n amgylchynu pedwar ffrind ac yn gwrthod gadael fynd yw canolbwynt y ddrama gyfoes yma.  Gyda chlic un botwm mae eu bywydau yn newid yn llwyr.

“Pawb yn gwylio pawb yn gwylio pawb a nabod neb.”

Gan :  Bethan Gwanas

Cyfarwyddydd : Angharad Lee

Cast : Nia Ann, Lowri Sion, Endaf Eynon Davies & Dion Lloyd Jones

Bydd y daith yn teithio i ysgolion a theatrau.  Manylion llawn i’w cadarnhau yn fuan.


AR DAITH : 1 Hydref - 17 Tachwedd 2012

www.aradgoch.org/index.php/beth-sy-mlan/llawn1/sxto

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------


“So ... get snapping baby! 1 pic –  4 me.”

Lowri’s boyfriend is Meic.  They are in love, so nothing is wrong with sending a photo to prove that they trust each other….is there?

Meic’s friend is Gav.  And when Meic gets a new phone for his birthday, Gav buys his old one. But where’s the photo of Lowri?

Jen is Lowri’s friend. But Lowri keeps putting her down and drives her crazy sometimes.  What is her reaction when she sees the photo of Lowri?

Four friends entangled in a gigantic and multiplying web is the core of this modern play.  With the click of a button their lives change. Forever.


“Everybody watching everybody watching everybody but knowing nobody”

 By :  Bethan Gwanas

Director : Angharad Lee

Cast : Nia Ann, Lowri Sion, Endaf Eynon Davies & Dion Lloyd Jones